Pwy oedd Myrddin?
Yn ôl llawer o lenyddiaeth ganoloesol, roedd Myrddin yn broffwyd a dewin a oedd yn byw ym Mhrydain yn yr Oesoedd Canol cynnar. Does dim tystiolaeth hanesyddol gref dros fodolaeth Myrddin, ond mae llawer o draddodiadau diweddarach amdano.
Mewn barddoniaeth Gymraeg, mae Myrddin yn broffwyd yn bennaf, yn hytrach na dewin. Mae’n cael ei leoli yn yr ‘Hen Ogledd’, sef Gogledd Lloegr a De’r Alban, yn yr un rhan o’r byd ag Aneirin a Thaliesin. Yn ôl y cerddi, aeth Myrddin o’i gof ar ôl marwolaeth ei arglwydd Gwenddolau ym Mrwydr Arfderydd (a ddigwyddodd yn 573 OC yn ôl cronicl diweddarach). Yna aeth i fyw yn y coed yn ddyn gwyllt. Mae chwaer Myrddin, Gwenddydd, yn ymddangos mewn rhai cerddi, ac yn siarad gyda Myrddin wrth iddo sôn am y dyfodol.
Mae’r Myrddin Wyllt hwn yn cael ei gysylltu â phroffwyd arall, sef Emrys. Mae Emrys yn datgan proffwydoliaeth enwog bod Draig Goch y Brythoniaid yn mynd i guro Draig Wen y Saeson. Erbyn cyfnod Sieffre o Fynwy (12fed ganrif) o leiaf, roedd Myrddin ac Emrys wedi eu cyfuno’n un ffigwr